SL(6)696 – Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025

Cefndir a Diben

Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 (“y Ddeddf”) ac mae’n dwyn i rym y darpariaethau a bennir yn y Gorchymyn ar y dyddiadau a bennir yn y Gorchymyn.

Gweithdrefn

Dim gweithdrefn.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Mae’r Gorchymyn yn dwyn i rym adrannau 90 ac 91 o’r Ddeddf ar 16 Mawrth 2026.

Ar 4 Mehefin 2024, daeth adran 147(1)(b) o’r Ddeddf â’r darpariaethau yn Rhannau 2 i 8 o’r Ddeddf (y mae adrannau 90 ac 91 yn rhan ohonynt) i rym, sy’n rhoi pŵer i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth ynghylch yr hyn y caniateir (neu na chaniateir) ei wneud wrth arfer pŵer i wneud rheoliadau.

Mae adran 90 yn cynnwys pŵer i wneud gorchymyn. Mae adran 91 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau. 

Ymddengys felly y gall adran 90 fod eisoes mewn grym yn rhannol, er y byddai barn Llywodraeth Cymru ynghylch a yw’n ystyried bod pŵer i wneud gorchymyn yn dod o fewn cwmpas adran 147 yn cael ei gwerthfawrogi, gan ystyried effaith adran 39(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol).

Mae’r Pwyllgor hefyd o’r farn bod adran 91 eisoes mewn grym yn rhannol.

O dan amgylchiadau o’r fath, byddai disgwyl i’r Gorchymyn nodi bod adrannau 90 ac 91 yn cael eu cychwyn ar 16 Mawrth 2026 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, fel y gwnaed yn achos darpariaethau eraill yn y Gorchymyn. Gall methu â chynnwys geiriau i berwyl y geiriad sydd wedi’i danlinellu arwain at ddryswch o ran pryd y daeth agweddau penodol ar adrannau 90 ac 91 i rym. Felly, gofynnir am gadarnhad ynghylch a yw’r Llywodraeth yn ystyried bod unrhyw agwedd ar adrannau 90 ac 91 eisoes mewn grym, ac os felly, pam nad yw hyn wedi cael ei ystyried yn y Gorchymyn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

13 Ionawr 2026